Te Prynhawn HM

Mwynhewch brynhawn ger yr harbwr gyda’n bwydlen amrywiol o ddanteithion melys a sawrus. Mae ein Te Prynhawn yn cyflwyno gwedd newydd ar draddodiad, gyda brechdanau, cacennau a melysion sy’n adlewyrchu hanfodion glan môr. Cewch ddewis o de dail rhydd neu goffi ffres. Os hoffech ychydig o foethusrwydd, dewiswch De Prynhawn Pefriog HM gyda gwydraid o brosecco, neu De Prynhawn Siampên HM gyda gwydraid o Siampên Laurent Perrier. Ymhyfrydwch yn yr awyrgylch arfordirol gan dreulio prynhawn hyfryd ger y lli.

Ar gael ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn am 3yh.

(Ac eithrio penwythnosau Gŵyl y banc a gwyliau ysgol.)

Cliciwch Yma i fwcio neu dewiswch yr adran ‘Book’ ar ein gwefan. Gallwch hefyd gysylltu drwy ebostio info@harbour-master.com neu ffonio 01545 570 755.

Darperir ar gyfer anghenion dietegol arbennig. Rhowch wybod os oes angen opsiwn llysieuol neu di-glwten wrth fwcio. Gweler ein bwydlen ar dudalen ‘BWYTA’ ein gwefan.

Mae’n angenrheidiol bwcio Te Prynhawn o leiaf 48 awr o flaen llaw gan nodi eich bod yn bwriadu defnyddio taleb. Gellir defnyddio'r daleb hyd at ei llawn gwerth ac ni roddir newid. Ni all y daleb gael ei chyfnewid am arian parod nac ychwaith ei defnyddio gydag unrhyw gynnig neu gerdyn gostyngiad.

Talebau’n ddilys am 12 mis. Ni ellir defnyddio'r daleb wedi'r dyddiad terfyn. Rhaid cyflwyno'r daleb wrth gyrraedd hyd yn oed os ydych wedi bwcio.

Mae'n bosib y bydd telerau ac amodau pellach yn weithredol – cliciwch ar ‘Te Prynhawn HM’ ar adran ‘BWYTA’ ein gwefan am wybodaeth pellach.


Mae’n rhaid bwcio pob opsiwn Te Prynhawn HM o leiaf 48 awr o flaen llaw. Rhowch wybod os oes angen opsiwn llysieuol neu di-glwten wrth fwcio. Mae’n bwysig eich bod yn nodi unrhyw anghenion dietegol arbennig wrth fwcio. Byddwn yn holi am rif cerdyn debyd neu gredyd i gadarnhau eich bwciad, hyd yn oed os ydych yn bwriadu talu mewn modd arall. Dim ond os byddwch yn canslo neu’n methu mynychu y defnyddir y manylion hyn. Os na fyddwch yn mynychu ac heb ganslo o flaen llaw, byddwn yn codi tâl o £10 yr un ar y garden a ddefnyddiwyd i gadarnhau’r bwciad. Os byddwch yn canslo ar ôl 10yb ar ddiwrnod eich bwciad, byddwn hefyd yn codi tâl o £10 yr un.

£ 25.00